Y mae dramâu mawr trasig y Groegiaid, a dyfodd o gân a dawns a defod, yn cynnwys cymeriadau a digwyddiadau ysgytwol, sydd yn creu pendroni ar bwerau dychrynllyd bywyd, yn aml yn eu hagweddau fel duwiau. Efallai fod y duwiau wedi mynd, ond fel y dangosodd Freud - gyda pheth cyfiawnhad - y mae'r pwerau'n aros fel dyheadau, yn enwedig yn yr isymwybod. Neu y mae'r pwerau'n dal i fodoli ac yn ein gorfodi ni i wynebu elfennau goruwchnaturiol yng ngwead bywyd. Yr ydym yn dod wyneb yn wyneb â thynged pobol mewn dyfnderau, ac y mae'r dramâu, fel y mae rhai defodau, yn ein gorfodi ni i ystyried teimladau dwysaf ein hil. Yn Electra y mae marwolaethau, a chosbau, cyfiawnder, dial, a chariad yn cael eu gosod ger ein bron wedi eu gweithio trwy fywydau cymeriadau o'r hen fyd, cymeriadau sydd yn dal i lefaru wrthym ni. Y mae cyfieithiad y diweddar Euros Bowen o'r testun, ei Ragymadrodd iddo, a'i Nodiadau arno'n cynnig inni gyflwyniad craff iawn ac eglur i un o ddramâu mawr Soffocles, ac un o ddramâu mwya'r byd.
|